Croeso i wefan
Ysgol Gynradd Llanychllwydog
Mae Ysgol Llanychllwydog yn ysgol gynradd fach draddodiadol Gymraeg, gyda dalgylch gwledig sy’n derbyn disgyblion o’r gymuned amaethyddol leol yn ogystal â disgyblion o’r tu allan i’r dalgylch sy’n dewis mynychu ysgol lai o faint.
Adeiladwyd yr ysgol yng nghyfnod 1880 ac y mae wedi gwasanaethu’r gymdeithas yn dda drwy gydol yr oesau. Mae hyn i gyd yn cyfrannu at yr awyrgylch gartrefol, deuluol gref sy’n bodoli yn Ysgol Llanychllwydog.
Mae Ysgol Llanychllwydog yn Ysgol Cyfrwng Cymraeg; yr iaith Gymraeg yw iaith weithredol yr ysgol ac mae holl awyrgylch yr ysgol yn Gymreig ei naws. Mae’r ardal yn parhau i fod yn un draddodiadol Gymreig.
Ein nod yw creu sefydliad cysurus a chefnogol, lle mae cyfle i bob plentyn ddatblygu i’w llawn botensial, yn addysgiadol, emosiynol a chymdeithasol
Welcome to
Llanychllwydog School’s website
.Ysgol Llanychllwydog is a small, traditional Welsh primary school, with a rural catchment area that admits pupils from the local agricultural community and also pupils from outside the catchment who choose to attend a smaller school.
The school was built during the 1880s and has served the community well throughout the ages. All this contributes to the strong homely, family atmosphere that exists in Ysgol Llanychllwydog.
Ysgol Llanychllwydog is a Welsh Medium school; the Welsh language is the day to day operational language of the school and the whole school atmosphere is essentially Welsh. The pupils are proud of their language and heritage. The area in which the school is situated is still traditionally Welsh.
Mae ysgol Llanychllwydog ynghanol y gymuned, “ysgol bentref” yng ngwir ystyr y gair.
Llanychllwydog school is at the heart of the community, a true “village school”.