Yn ystod gwanwyn a haf 2023, bu disgyblion Ysgol Llanychllwydog yn ymchwilio i enwau hanesyddol caeau yr ardal lle maen nhw’n byw. Wrth weithio ar brosiect ‘Perci Ni’, fe ddysgon nhw sut mae hen enwau yn drysorfa o wybodaeth am y gorffennol. Cafodd eu geirfa ei gyfoethogi â geiriau sy’n perthyn i hanes amaethyddiaeth yr ardal.
Dathlwyd cwblhau y gwaith gyda diwrnod arbennig ar 16-7-24 pan y gwahoddwyd ffrindiau i festri Jabes, a bu’r plant yn perfformio cân a gyfansoddwyd ganddynt, gan egluro i bawb am y prosiect. Dadorchuddiwyd arwydd a thaflenni map sy’n dangos enwau llawer iawn o’r perci o gwmpas y pentre.